Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 28 Ionawr 2019
Amser:
13.18 -
16.55
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5047
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Neil Hamilton AC Rhianon Passmore AC Adam Price AC Jenny Rathbone AC Vikki Howells AC |
Tystion: |
Dr Andrew Goodall, Llywodraeth Cymru Alan Brace, Llywodraeth Cymru Simon Dean, Llywodraeth Cymru Jo Jordan, Llywodraeth Cymru |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Adrian Crompton – Archwilydd Cyffredinol Cymru Matthew Mortlock Dave Thomas Mike Usher |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Meriel Singleton (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Stephen Boyce (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor a chroesawodd Vikki Howells AC yn ôl fel aelod o'r Pwyllgor. Diolchodd i Jack Sargeant AC am ei gyfraniadau.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.1 Clywodd Aelodau dystiolaeth gan Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru; Simon Dean, Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru; Jo Jordan, Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl, Llywodraethu GIG a Gwasanaethau Corfforaethol; ac Alan Brace, Cyfarwyddwr Cyllid, Llywodraeth Cymru fel rhan o'r ymchwiliad i'r hyn a ddysgwyd o Adolygiad Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
3.2 Cytunodd Dr Goodall i anfon dadansoddiad o arolwg staff y bwrdd iechyd sy'n dangos lefel y gwelliant dros y tair blynedd diwethaf. Cytunodd hefyd i anfon manylion o arolygon staff byrddau iechyd eraill er mwyn rhoi darlun ar draws Cymru.
4.1 Trafododd yr Aelodau'r ymateb, gan gytuno y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurder ynghylch nifer o faterion.
5.1 Trafododd yr Aelodau'r ymatebion i'r adroddiad a nodwyd y trefnwyd i Gyfoeth Naturiol Cymru ddod i'r Pwyllgor ar 11 Chwefror.
6.1 Derbyniwyd y cynnig.
7.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law.
8.1 Trafododd yr Aelodau ar yr adroddiad drafft. Cytunwyd y byddai fersiwn arall yn cael ei hanfon atynt ar gyfer eu cytundeb yn ddiweddarach yr wythnos hon.
8.2 Cytunodd yr Aelodau i gynnal dadl ar yr Adroddiad yn y Cyfarfod Llawn.
9.1 Trafododd yr Aelodau'r adroddiad drafft ac, oherwydd cyfyngiadau amser, cytunwyd i ddychwelyd at y mater yn y cyfarfod nesaf.